{"title":"Cyrchu’r Cnu Aur: cyrch i werthuso’r ffordd y mae Deallusrwydd Emosiynol yn dylanwadu ar waith arweinwyr ysgolion cynradd","authors":"Stella Stavrou Theodotou, Janet A. Harvey","doi":"10.16922/wje.p3","DOIUrl":null,"url":null,"abstract":"Beth sydd eisoes yn hysbys? Mae’r erthygl hon yn cynnig methodoleg ar gyfer ymchwilio i ddeallusrwydd emosiynol o fewn cyd-destunau gwaith arweinwyr addysgol. Roedd methodolegau sy’n bodoli eisoes yn cynnwys nifer o ddulliau a oedd weithiau’n gwrth-ddweud ei gilydd, heb yr un ohonynt yn gweddu’n union i nodau’r prosiect. Mae’r erthygl hon yn archwilio’r gwahanol enghreifftiau o wrth-ddweud sy’n codi ynddynt, ac yn cyfiawnhau’r dewis terfynol o dri dull ar gyfer sicrhau’r data angenrheidiol. Beth mae’r erthygl hon yn ei ychwanegu? Nid yw’r dulliau eu hunain yn newydd; yr hyn a oedd yn arloesol oedd eu defnydd cyfunol i ddehongli sut roedd arweinwyr yn credu eu bod yn defnyddio deallusrwydd emosiynol i ddylanwadu ar waith tîm a rhannu gweledigaeth. Mae materion cyfieithu sy’n deillio o gyd-destun yr ymchwil hefyd yn cael sylw byr. Mae’r cyfan wedi’i fframio trwy lens ymchwil fel taith, a methodoleg yn fap ar gyfer y daith honno. Beth yw’r goblygiadau? Mae’r erthygl hon wedi’i bwriadu ar gyfer arweinwyr ysgol, athrawon-ymchwilwyr ac academyddion sy’n dymuno archwilio effaith deallusrwydd emosiynol arweinwyr yn hytrach na dim ond ceisio ei fesur. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd gwerthuso deallusrwydd emosiynol yn ei gyd-destun trwy ddisgrifio un prosiect a geisiodd grynhoi dirnadaeth ddofn o’r cysylltiadau rhwng deallusrwydd emosiynol ac arweinyddiaeth ysgol mewn tair ysgol gynradd yng Nghyprus.","PeriodicalId":373832,"journal":{"name":"Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education","volume":"28 1","pages":"0"},"PeriodicalIF":0.0000,"publicationDate":"2023-05-19","publicationTypes":"Journal Article","fieldsOfStudy":null,"isOpenAccess":false,"openAccessPdf":"","citationCount":"0","resultStr":null,"platform":"Semanticscholar","paperid":null,"PeriodicalName":"Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education","FirstCategoryId":"1085","ListUrlMain":"https://doi.org/10.16922/wje.p3","RegionNum":0,"RegionCategory":null,"ArticlePicture":[],"TitleCN":null,"AbstractTextCN":null,"PMCID":null,"EPubDate":"","PubModel":"","JCR":"","JCRName":"","Score":null,"Total":0}
引用次数: 0
Abstract
Beth sydd eisoes yn hysbys? Mae’r erthygl hon yn cynnig methodoleg ar gyfer ymchwilio i ddeallusrwydd emosiynol o fewn cyd-destunau gwaith arweinwyr addysgol. Roedd methodolegau sy’n bodoli eisoes yn cynnwys nifer o ddulliau a oedd weithiau’n gwrth-ddweud ei gilydd, heb yr un ohonynt yn gweddu’n union i nodau’r prosiect. Mae’r erthygl hon yn archwilio’r gwahanol enghreifftiau o wrth-ddweud sy’n codi ynddynt, ac yn cyfiawnhau’r dewis terfynol o dri dull ar gyfer sicrhau’r data angenrheidiol. Beth mae’r erthygl hon yn ei ychwanegu? Nid yw’r dulliau eu hunain yn newydd; yr hyn a oedd yn arloesol oedd eu defnydd cyfunol i ddehongli sut roedd arweinwyr yn credu eu bod yn defnyddio deallusrwydd emosiynol i ddylanwadu ar waith tîm a rhannu gweledigaeth. Mae materion cyfieithu sy’n deillio o gyd-destun yr ymchwil hefyd yn cael sylw byr. Mae’r cyfan wedi’i fframio trwy lens ymchwil fel taith, a methodoleg yn fap ar gyfer y daith honno. Beth yw’r goblygiadau? Mae’r erthygl hon wedi’i bwriadu ar gyfer arweinwyr ysgol, athrawon-ymchwilwyr ac academyddion sy’n dymuno archwilio effaith deallusrwydd emosiynol arweinwyr yn hytrach na dim ond ceisio ei fesur. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd gwerthuso deallusrwydd emosiynol yn ei gyd-destun trwy ddisgrifio un prosiect a geisiodd grynhoi dirnadaeth ddofn o’r cysylltiadau rhwng deallusrwydd emosiynol ac arweinyddiaeth ysgol mewn tair ysgol gynradd yng Nghyprus.