{"title":"‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol","authors":"Sally Power, Chris Taylor, Nigel Newton","doi":"10.1002/curj.44","DOIUrl":null,"url":null,"abstract":"Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sylw i ddadleuon sydd wedi parhau ers cyfnod hir ym maes cymdeithaseg addysg am y rhan sydd gan wybodaeth ysgol mewn atgynhyrchu cymdeithasol a diwylliannol, mae ein hymchwil yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rheini a fydd yn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru os yw i gynnig ‘dyfodol llwyddiannus’ i bawb. Gan wneud defnydd o ddata o gyfweliadau ac arolygon o’r ysgolion hynny sydd wedi ymgymryd â’r dasg o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, a’r gwerthusiad o ddiwygio tebyg iawn ar y cwricwlwm ar gyfer addysg gynradd a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, rydym yn amlinellu’r galwadau am adnoddau materol a dynol gan y cwricwlwm newydd a’r risgiau o gynyddu hyblygrwydd. Rydym yn dadlau y bydd angen buddsoddi sylweddol a rhyw fath o atebolrwydd allanol i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn cael profiad o’r cwricwlwm sy’n agor y ffordd at ‘wybodaeth bwerus’.","PeriodicalId":46745,"journal":{"name":"Curriculum Journal","volume":null,"pages":null},"PeriodicalIF":1.2000,"publicationDate":"2020-05-11","publicationTypes":"Journal Article","fieldsOfStudy":null,"isOpenAccess":false,"openAccessPdf":"https://sci-hub-pdf.com/10.1002/curj.44","citationCount":"0","resultStr":null,"platform":"Semanticscholar","paperid":null,"PeriodicalName":"Curriculum Journal","FirstCategoryId":"1085","ListUrlMain":"https://doi.org/10.1002/curj.44","RegionNum":0,"RegionCategory":null,"ArticlePicture":[],"TitleCN":null,"AbstractTextCN":null,"PMCID":null,"EPubDate":"","PubModel":"","JCR":"Q2","JCRName":"EDUCATION & EDUCATIONAL RESEARCH","Score":null,"Total":0}
引用次数: 0
Abstract
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sylw i ddadleuon sydd wedi parhau ers cyfnod hir ym maes cymdeithaseg addysg am y rhan sydd gan wybodaeth ysgol mewn atgynhyrchu cymdeithasol a diwylliannol, mae ein hymchwil yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rheini a fydd yn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru os yw i gynnig ‘dyfodol llwyddiannus’ i bawb. Gan wneud defnydd o ddata o gyfweliadau ac arolygon o’r ysgolion hynny sydd wedi ymgymryd â’r dasg o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, a’r gwerthusiad o ddiwygio tebyg iawn ar y cwricwlwm ar gyfer addysg gynradd a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, rydym yn amlinellu’r galwadau am adnoddau materol a dynol gan y cwricwlwm newydd a’r risgiau o gynyddu hyblygrwydd. Rydym yn dadlau y bydd angen buddsoddi sylweddol a rhyw fath o atebolrwydd allanol i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn cael profiad o’r cwricwlwm sy’n agor y ffordd at ‘wybodaeth bwerus’.